SL(5)446 – Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cymalau Enghreifftiol ar gyfer Cyfarpar Sefydlog) (Cymru) 2019
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cynnal a Chadw, Atgyweirio ac Yswirio Cyfarpar Sefydlog) 1973 (“Rheoliadau 1973”) o ran Cymru.
Mae’r Rheoliadau yn rhagnodi telerau, a nodir yn Atodlen 1, o ran cynnal a chadw, atgyweirio ac yswirio cyfarpar sefydlog. Bernir bod telerau o’r fath wedi eu hymgorffori ym mhob contract tenantiaeth daliad amaethyddol, ac eithrio pan fyddant yn gosod atebolrwydd ar un o’r partïon i gytundeb ysgrifenedig sydd wedi ei osod ar y llall o dan y cytundeb.
Mae Atodlen 1 yn rhannu rhwng landlord a thenant daliad y cyfrifoldeb am gynnal a chadw, atgyweirio ac yswirio cyfarpar sefydlog, ac yn gosod atebolrwyddau penodedig penodol ar bob parti o ran y materion hynny.
Mae Atodlen 2 yn cynnwys dirymiadau, gan gynnwys dirymu Rheoliadau 1973.
Y weithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Cafodd y mater technegol a ganlyn ei nodi i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg
Mae rheoliad 7(3) o’r testun Cymraeg yn awgrymu y caiff y landlord adennill cost resymol y gwaith wrth y tenant yn gyflym, oherwydd ei fod yn nodi y gellir adennill y gost “wrth y tenant yn ddi-oed”. Fodd bynnag, dywed y testun Saesneg “the landlord may recover the cost without delay”. Byddem yn awgrymu y dylid defnyddio geiriad amgen, sef rhoi “heb oedi” (‘without delay’ yn Saesneg) yn lle “yn ddi-oed”.
Mae'r un mater yn codi eto yn Rheoliad 14(3)(a).
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd
Ni nodwyd unrhyw oblygiadau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Hydref 2019